Mae ODAG Consultants Ltd yn ymgynghoriaeth sgiliau, addysg a datblygu'r gweithlu annibynnol sy’n canolbwyntio ar dechnoleg ddigidol a sgiliau peirianneg uwch.
Mae ODAG yn datblygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) newydd ar gyfer:
- Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) ar gyfer cymhwyso offer AI cynhyrchiol yn y gweithle - Daw'r ymgynghoriad i ben am 5pm ar 29 Tachwedd 2024.
- Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) newydd ar gyfer Cudd-wybodaeth Busnes (BI) - Daw'r ymgynghoriad i ben am 5pm ar 6 Rhagfyr 2024.
- Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) ar gyfer Telegyfathrebiadau 5G a Rhwydweithio Di-wifr Uwch - Daw'r ymgynghoriad i ben am 5pm ar 13 Rhagfyr 2024.
Gwahoddir adborth gan gyflogwyr, arbenigwyr yn y diwydiant, darparwyr hyfforddiant, addysg bellach ac uwch, a rhanddeiliaid eraill ledled y DU.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: odag.co.uk