Ymgynghoriad Tariff Byd-eang y DU
Mae Llywodraeth y DU wedi lansio ymgynghoriad ar bolisi tariff annibynnol y DU a fydd yn berthnasol o 1 Ionawr 2021. Dyma’r tro cyntaf mewn yn agos at hanner can mlynedd pryd y bydd y DU yn rhydd i bennu ei chyfraddau tariff ei hun ar yr holl nwyddau sy’n cael eu mewnforio. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle unigryw a hanesyddol i bob busnes, pob unigolyn a phob grŵp cymdeithas sifil, ym mhob rhan o’r DU, ddweud eu dweud.
Mae Llywodraeth y DU yn annog pawb â diddordeb i gymryd rhan a lleisio’u barn.
Daw’r ymgynghoriad i ben ar 5 Mawrth 2020.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.
Ymgynghoriad ar Borthladdoedd Rhydd
Mae Llywodraeth y DU eisiau sefydlu Porthladdoedd Rhydd, sydd â rheolau ynghylch tollau sy’n wahanol i weddill y wlad, sy’n hybiau arloesol, yn hybu masnach fyd-eang, yn denu mewnfuddsoddiad ac yn cynyddu cynhyrchiant.
Bwriedir cyflwyno hyd at 10 Porthladd Rhydd ar draws y DU. Nod Llywodraeth y DU yw i Borthladdoedd Rhydd ddenu busnesau, swyddi, buddsoddiad a chyfleoedd newydd.
Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 20 Ebrill 2019.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.