P'un a ydych chi'n fusnes bach, ysgol neu sefydliad arall, gall Cadwch Gymru'n Daclus eich helpu i reoli'ch cyfarpar gwastraff mewn ffordd ddiogel, gydymffurfiol, sy’n gyfeillgar i'r amgylchedd.
Mae'r cynllun ailddefnyddio ac ailgylchu TGCh a Chyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (WEEE) yn bartneriaeth gydag A&LH Environment sy'n eich galluogi i gael gwared ar eich holl cyfarpar diangen trwy un gwasanaeth casglu cynhwysfawr sy'n cwmpasu popeth, gan wybod eich bod chi’n lleihau'r effaith ac yn cynyddu eich cyfraniad at yr amgylchedd.
Gall unrhyw beth sydd â phlwg neu gebl gael ei ailgylchu.
Beth y gellir ei gasglu:
- Llwybryddion
- Gweinyddion
- Cyfrifiaduron bwrdd gwaith
- Llechi
- Gliniaduron
- Monitorau
- Taflunyddion
- Setiau teledu
- Nwyddau gwyn
- Bylbiau fflwroleuol
- Rhywfaint o offer meddygol
- Byrddau gwyn ysgol
Bydd Cadwch Gymru'n Daclus yn darparu amcangyfrif o gost casglu eich cyfarpar yn dilyn cais, a bydd unrhyw ddata sydd ar yriannau caled yn cael eu dinistrio'n ddiogel ac yna caiff y nwyddau eu hailddefnyddio yn y DU, pryd bynnag y bo modd.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Ymrwymwch i leihau eich gwastraff - Cadwch Gymru'n Daclus - Caru Cymru