BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymunwch â Busnes Cymdeithasol Cymru i ddysgu am Berchnogaeth Gweithwyr

Ymunwch â Busnes Cymdeithasol Cymru i ddysgu mwy am Berchnogaeth Gweithwyr yn eu gweminar am ddim ar 17 Chwefror 2022 rhwng 2pm a 3pm.

Os ydych chi am werthu’ch busnes neu am ddatblygu’ch busnes a gwobrwyo a chadw staff, mae Perchnogaeth Gweithwyr yn opsiwn arloesol â manteision masnachol profedig. Dyma’r math o berchnogaeth busnes sy’n tyfu gyflymaf yn y DU bellach.

Gall Perchnogaeth Gweithwyr fod yn fuddiol iawn os ydych chi’n:

  • ystyried ymddeol o fusnes rydych sy’n eiddo i chi
  • ystyried ymddeol o fusnes teuluol nad oes gan aelodau eraill o’r teulu ddiddordeb ynddo
  • dechrau busnes newydd ac am ddenu’r doniau gorau
  • awyddus i roi cyfran o’r busnes i’ch gweithwyr i sicrhau twf hirdymor
  • am sicrhau y gall eich busnes aros yn annibynnol yn yr hirdymor

Yn y weminar, byddwch chi’n dysgu am:

  • botensial buddion treth i werthwyr/gweithwyr
  • modelau perchnogaeth gweithwyr
  • syniadau ymarferol i helpu gyda chynllunio olyniaeth
  • profiadau busnesau eraill yng Nghymru o roi cynnig ar berchnogaeth gweithwyr

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad am ddim ewch i Eventbrite

Mae gennym adnodd ar-lein i helpu i egluro am gynllunio olyniaeth perchnogaeth busnes a'r prif gamau i drosglwyddo perchnogaeth busnes yn esmwyth oddi wrth berchennog presennol i un newydd BOSS: Ynglŷn â Cynllunio Olyniaeth ar gyfer eich Busnes (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.