BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymunwch â Gorymdaith Pride Cymru 2023!

Elusen a arweinir gan wirfoddolwyr yw Pride Cymru sy'n gweithio i hyrwyddo dileu gwahaniaethu, boed hynny ar sail cyfeiriadedd rhywiol, rhywedd, hil, crefydd neu allu.

Bydd Gorymdaith Pride Cymru yn dychwelyd i strydoedd Caerdydd ar 17 ac 18 Mehefin 2023, sy’n ddathliad blynyddol trochol a gweledol ysblennydd o gyflawniadau cydraddoldeb ac amrywiaeth a chefnogaeth gymunedol.

Gall unrhyw fusnesau, ni waeth beth yw eu maint, gymryd rhan yng ngorymdaith Pride Cymru #PrideCymru2023, ynghyd â’u gweithwyr. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Join the Parade - Pride Cymru

I gael mwy o wybodaeth, ewch i'r wefan The Festival - Pride Cymru 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.