BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymunwch ag Innovate UK EDGE Pitchfest Cymru – Ceisiadau ar agor nawr!

Mae Innovate UK EDGE Pitchfest yn cefnogi busnesau bach a chanolig arloesol ac uchelgeisiol yn y DU i fod yn barod am fuddsoddiad ac i ddatblygu eu neges ar gyfer buddsoddwyr er mwyn helpu i godi cyllid.
Beth mae Innovate UK EDGE Pitchfest yn ei gynnig?

  • Dau ddiwrnod o hyfforddiant ar gyfleu neges gynhwysfawr
  • Mynediad at arbenigwyr ar gyfleu neges a buddsoddi blaenllaw
  • Cymorth pwrpasol gan arbenigwr arloesi a thwf ymroddedig
  • Cyfle i feithrin cynnig buddsoddiad clir a chredadwy sy’n argyhoeddi
  • Atgyfnerthu eich neges ddarbwyllol a pharatoi neges sy’n argyhoeddi buddsoddwyr 
  • Deall sut i ddod o hyd i fuddsoddwyr yn eich rhanbarth a ledled y DU
  • Ennill profiad drwy roi cynnig ar gyfleu eich neges o flaen buddsoddwyr go iawn a derbyn adborth adeiladol heb risg.

Os oes gennych chi gynnig arloesol i brofi’ch neges i fuddsoddwyr a bod gan eich cynnyrch neu wasanaeth farchnad ryngwladol – yna mae Pitchfest yn ddelfrydol i chi!

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i fusnesau o Gymru yw dydd Mercher, 1 Rhagfyr 2021 am 5pm.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Pitchfest:  Investment Readiness | Innovate UK EDGE (ukri.org)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.