BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymunwch â’r Gymuned Llongau Clyfar

Person holding a digital tablet, WiFi symbol, electronic map of the world.

Dyma fenter newydd dan arweiniad Innovate UK Business Connect mewn cydweithrediad â'r Adran Drafnidiaeth.

Y bwriad gyda’r cyfle hwn o fewn y Diwydiant Llongau Clyfar yw meithrin a datblygu gwahanol dechnolegau ar draws ystod o sectorau er mwyn gweld a oes defnydd iddynt o fewn cludiant môr.

Er nad porthladdoedd a morio yw eich prif ffocws o reidrwydd, mae’r fenter yn awyddus i greu cymuned o sefydliadau sydd ag arbenigeddau perthnasol, a hynny er mwyn cefnogi datblygiad technoleg llongau clyfar trwy dechnolegau digidol ac awtomeiddio.

Mae potensial yma ar gyfer arloesi ar draws sectorau, yn enwedig mewn meysydd fel gweithrediadau porthladdoedd tir, rheoli ynni mewn porthladdoedd ac ar longau, awtomeiddio llongau, a defnyddiau morwrol eraill.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru: Smart Shipping Community (ktn-uk.org) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.