BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Yn barod i ddechrau Menter Gymdeithasol?

Mae mentrau cymdeithasol yn fusnesau sy'n creu newid cymdeithasol neu amgylcheddol cadarnhaol. Maent yn creu cyfleoedd cyflogaeth ac yn ailfuddsoddi eu helw yn ôl yn eu busnes neu'r gymuned leol, ac yma yn y DU maent yn cyfrannu dros £60 biliwn bob blwyddyn i economi'r DU. 

Drwy ddechrau menter gymdeithasol, byddwch yn ymuno â mudiad, sydd eisoes yn fawr, o bobl sy'n tarfu ar fodelau busnes traddodiadol, gan ddangos bod ffordd decach, wyrddach a mwy cynhwysol o wneud busnes. 

Ymunwch â Chwarae Teg ar gyfer y digwyddiad ar-lein rhyngweithiol hwn ar 17 Mai 2022 lle byddwch yn clywed popeth am y cyngor a'r gefnogaeth ymarferol sydd eu hangen arnoch i'ch rhoi ar ben ffordd ar eich taith i fenter gymdeithasol.  

Bydd y sesiwn hon yn cynnwys: 

Beth yw menter gymdeithasol?

  • Ffeithiau a ffigurau am faint y mudiad mentrau cymdeithasol 
  • Beth sy'n ei wneud yn wahanol i fusnesau eraill - manteision ac anfanteision 
  • Gwybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddechrau menter gymdeithasol 

Cyngor a chymorth ymarferol wrth sefydlu menter gymdeithasol

  • Deall y daith 
  • Sut i adeiladu tîm o'ch cwmpas 
  • Cynllunio ariannol a strategaeth ariannu 
  • Beth sy'n gwneud busnes cymdeithasol gwych 
  • Pa gymorth sydd ar gael  

Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys menywod o bob rhan o Gymru sydd eisoes wedi sefydlu eu mentrau cymdeithasol eu hunain, ac wedyn bydd cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau iddynt.  

I gael mwy o wybodaeth ac i drefnu lle ewch i Webinar (microsoft.com)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.