BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Yn galw ar holl Entrepreneuriaid a phobl sy'n Frwd dros Fusnes

 businessman checking mark on checklist on the check boxes with a red marker on dark background.

Mae Banc Datblygu Cymru wedi comisiynu cwmni annibynnol, Miller Research, i gynnal ymchwil i'w gynnyrch a'i wasanaethau.

Fel rhan o’r asesiad hwn, rydym yn gofyn i bobl drafod eu hagweddau tuag at ddechrau busnes a phrofiadau a chanfyddiadau ehangach o wneud cais am gyllid a chymorth – naill ai i ddechrau busnes newydd neu i ddatblygu un sy’n bodoli eisoes.

Bydd ymatebion i'r arolwg yn helpu'r Banc Datblygu i sicrhau bod pob dinesydd yn profi cyfle cyfartal wrth wneud cais am gyllid yng Nghymru. Mae tystiolaeth bellach yn cael ei chasglu trwy weithdai staff, ymgynghoriadau â grwpiau eiriolaeth a chyfres o grwpiau ffocws.

Bydd yr arolwg hwn yn cymryd 10-15 munud i'w gwblhau. Bydd yn gwbl ddienw a dim ond ar gyfer y darn penodol hwn o ymchwil y bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio. Mae'r arolwg yn cadw at Ganllawiau'r Gymdeithas Ymchwil i'r Farchnad. Bydd pawb sy'n cymryd rhan yn yr arolwg yn cael eu cynnwys mewn raffl ar hap i ennill un o ddau daleb siopa Amazon neu stryd fawr gwerth £50.

Bydd yr arolwg ar agor tan 10 Tachwedd 2023:
Equality Consultation (smartsurvey.co.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.