Mae Small Business Britain, Square a Clearpay yn gweithio gyda’i gilydd yn 2024 i ddeall y cyfleoedd a’r heriau i entrepreneuriaid benywaidd yn y DU.
Maen nhw’n dymuno clywed gan entrepreneuriaid benywaidd i ddeall eu profiad o redeg eu busnes eu hunain a’r manteision a’r anfanteision sy’n gysylltiedig â hynny.
Bydd yr wybodaeth yn cael ei rhannu mewn adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2024.
Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i gwblhau’r arolwg: Small Business Britain: Female Entrepreneurship Survey 2024 (surveymonkey.com)
Cefnogi Merched yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod ac yn cefnogi pwysigrwydd a chyfraniad entrepreneuriaid sy'n fenywod at economi Cymru: Cefnogi Merched yng Nghymru | Busnes Cymru (gov.wales)