Cynhelir Ynni Dyfodol Cymru ar 25 Tachwedd 2021 yn ICC Wales, Casnewydd ac mae’n cynnig cyfle unigryw i glywed gan arbenigwyr ledled ein system ynni tra’n rhoi’r cyfle i unigolion, sefydliadau a busnesau gyfarfod, rhwydweithio a thrafod busnes.
Themâu’r gynhadledd yw:
- Ynni adnewyddadwy yn yr 2020au
- Seilwaith ynni ar gyfer sero-net
- Dychmygu llwyddiant Cymru
Bydd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd yn rhoi anerchiad yn Ynni Dyfodol Cymru.
Am ragor o wybodaeth, ewch i Ynni Dyfodol Cymru : Tuag at genedl sero-net (future-energy.wales)