BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: Dysgu ar-lein am ddim i gyflogwyr

Warehouse worker looing at a digital tablet

Cofrestrwch ar gyfer dysgu ar-lein am ddim gan ymgyrch Working Minds yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). 

Mae’r cwrs dysgu byr ar-lein newydd yn cynnwys 6 modiwl byr sy’n eich arwain fesul cam, gydag offer buddiol a senarios bob dydd y gallwch uniaethu â nhw ar hyd y ffordd.

Mae gemau a chwisiau wedi cael eu paratoi trwy gydol y cwrs i gadw pethau’n ddiddorol, ac nid yw’n cymryd mwy nag awr i’w gwblhau, yn nodweddiadol. 

Byddwch yn dod i ddeall yr hyn y mae’r gyfraith yn ei ofyn gan gyflogwyr, a beth mae angen i chi ei wneud i gydymffurfio.

I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: HSE Workplace Stress


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.