BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Yr Her Darganfod Data Clyfar

businesswoman looking at futuristic interface screen.

Sut gallech chi wneud gwahaniaeth i ddefnyddwyr sy’n defnyddio Data Clyfar, pe byddai’n bodoli ar draws ystod o sectorau gwahanol yn yr economi?

Mae’r Adran Busnes a Masnach (DBT), Challenge Works, y Sefydliad Data Agored (ODI) a Smart Data Foundry yn gwahodd unigolion, arloeswyr, entrepreneuriaid, y byd academaidd a chymdeithas sifil i ddod o hyd i ffyrdd arloesol y gallai Data Clyfar wneud gwahaniaeth i ddefnyddwyr, busnesau bach a chymdeithas ehangach.

Nid yw’r alwad agored hon yn chwilio am atebion wedi’u ffurfio’n llawn, ond syniadau ar gyfer achosion o ddefnyddio Data Clyfar ar draws sectorau sy’n defnyddio data o un o’r pum sector canlynol, o leiaf:

  • Gwasanaethau ariannol
  • Prynu tai
  • Ynni
  • Trafnidiaeth
  • Manwerthu

Yn dilyn yr Her Ddarganfod, y nod yw lansio gwobr her Data Clyfar yn ddiweddarach yn 2024. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y wobr hon yn elwa ar gyfran o hyd at £750,000 i greu prototeip a phrofi datrysiadau sy’n dangos ystod o achosion o ddefnyddio Data Clyfar ar draws sectorau yn ymarferol.

Rhaid i chi gyflwyno eich ceisiadau erbyn 4pm ar 8 Rhagfyr 2023.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Smart Data Challenge (challenges.org) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.