Bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno cynllun i gyflawni cyfyngiadau ar fewnfudo net sy’n cynnwys y canlynol:
- o’r gwanwyn nesaf, bydd cynnydd o 50% yn y trothwy enillion ar gyfer gweithwyr tramor, o’i sefyllfa bresennol o £26,200 i £38,700
- bydd cynnydd yn yr isafswm incwm sy’n ofynnol ar gyfer dinasyddion Prydain a phobl sydd wedi ymgartrefu yn y DU sydd eisiau i aelodau eu teulu ymuno â nhw
- tynhau’r fisa Iechyd a Gofal
- terfynu’r disgownt cyflog o 20% ar y gyfradd arferol ar gyfer galwedigaethau lle ceir prinder, a disodli’r Rhestr o Alwedigaethau lle ceir Prinder gan Restr Cyflogau Mewnfudo newydd, a fydd yn cadw disgownt cyffredinol ar gyfer y trothwy.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Home Secretary unveils plan to cut net migration - GOV.UK