Mae enwebiadau ar gyfer Ysbrydoli! Gwobrau Addysg Oedolion 2023 wedi agor!
Mae Gwobrau Ysbrydoli! yn dathlu llwyddiannau unigolion, prosiectau a sefydliadau sydd wedi dangos angerdd, ymrwymiad a phenderfyniad eithriadol i wella eu hunain, eu cymuned neu weithle trwy ddysgu.
Mae’r gwobrau’n amlygu effaith addysg oedolion a dysgu gydol oes, ac mae’n gyfle i arddangos gwerth buddsoddi mewn cyfleoedd sydd yn newid bywydau.
Categorïau’r Gwobrau:
- Sgiliau ar gyfer Gwaith
- Dysgwr Ifanc sy’n Oedolyn
- Newid Bywyd a Chynnydd
- Heneiddio’n Dda
- Dechrau Arni – Dechreuwr Cymraeg
- Gorffennol Gwahanol: Rhannu’r Dyfodol
- Sgiliau Hanfodol am Oes
- Cymru ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol
- Gwobr Hywel Francis ar gyfer Effaith Gymunedol
- Gwneuthurwyr Newid yn y Gweithle
Dyddiad cau: 17 Ebrill 2023.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Ysbrydoli! Gwobrau Addysg Oedolion - Learning and Work Institute (sefydliaddysguagwaith.cymru)