BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn nodi'r camau nesaf ar 20mya

20 mph road sign

Bron i flwyddyn ers cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya yng Nghymru, mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, wedi nodi'r camau nesaf.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet gynllun tri cham ar 20mya, gan gynnwys Rhaglen Wrando Genedlaethol dros yr haf, a oedd yn annog pobl i gymryd rhan a dweud eu dweud. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau diwygiedig ar gyfer awdurdodau priffyrdd ym mis Gorffennaf.

Mae dau gam cyntaf y cynllun wedi’u cwblhau. Mae awdurdodau lleol bellach wrthi'n adolygu adborth gan bobl, busnesau a chymunedau ledled Cymru i sicrhau bod 20mya wedi'i dargedu ar y ffyrdd cywir.

Mae nifer o gynghorau bellach yn dechrau amlinellu cam olaf y cynllun drwy gyhoeddi gwybodaeth ar faint o adborth a gafwyd a’r camau nesaf.

Unwaith y bydd eu hadolygiad wedi'i gwblhau, os bydd awdurdodau lleol yn penderfynu newid y terfyn cyflymder ar ffordd unigol, bydd proses statudol Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (TRO) yn dechrau – gan roi cyfle pellach i ymgysylltu â phobl leol.

Mae'r ystadegau diweddaraf yn arwydd calonogol bod pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir, gyda chwymp yn nifer y gwrthdrawiadau a gostyngiad mewn cyflymder.

Dywedodd Ken Skates:

Roeddwn i eisiau rhoi llais i bobl ar 20mya yn eu hardal ei hunain, ac rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi rhannu adborth gyda'u cyngor lleol dros y misoedd diwethaf.

Rwyf am adeiladu o'r consensws eang bod 20mya yn iawn lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn chwarae - mae hyn yn ymwneud â sicrhau’r cyflymderau cywir ar y ffyrdd cywir.

Hoffwn ddiolch i'n partneriaid llywodraeth leol. Rwy'n falch bod awdurdodau lleol yn dechrau symud i gamau olaf y cynllun. Bydd y gwaith hwn yn datblygu ar gyflymder gwahanol mewn gwahanol leoedd, yn ôl amgylchiadau lleol a faint o adborth a gafwyd.

Cliciwch ar y doleni ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.