BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr

small business owner smiling with paperwork and laptop

Mae cyflogwyr yn gyfrifol am iechyd a diogelwch eu gweithwyr pan fyddan nhw yn y gwaith. Gall eich gweithwyr gael eu hanafu yn y gwaith neu fe allan nhw, neu eich cyn-weithwyr, fynd yn sâl o ganlyniad i'w gwaith yn sgil cael eich cyflogi gennych. Efallai y byddan nhw'n ceisio hawlio iawndal gennych chi os ydyn nhw'n credu mai chi sy’n gyfrifol. Mae Deddf Atebolrwydd Cyflogwr (EL) (Yswiriant Gorfodol) 1969 yn sicrhau bod gennych o leiaf lefel isafswm o yswiriant yn erbyn unrhyw hawliadau o'r fath.

Efallai nad oes angen yswiriant atebolrwydd cyflogwr arnoch os ydych chi ond yn cyflogi aelod o’ch teulu neu rywun sydd wedi’i leoli dramor.

Gallwch gael dirwy o £2,500 am bob dydd nad oes gennych chi’r yswiriant iawn.

Gallwch hefyd gael dirwy o £1,000 os nad ydych yn arddangos eich tystysgrif atebolrwydd cyflogwyr neu wrthod ei darparu i arolygwyr pan fyddant yn gofyn am gael ei gweld.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni canlynol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.