Mae’r Goruchaf Lys wedi rhannu ei ddyfarniad ar achos prawf yswiriant tarfu ar fusnes yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Mae’r pandemig coronafeirws wedi arwain at darfu eang a busnesau yn cau gan arwain ar golledion ariannol sylweddol. Mae llawer o gwsmeriaid wedi cyflwyno hawliadau am y colledion hyn o dan eu polisïau yswiriant tarfu ar fusnes.
Mae’r materion sy’n gysylltiedig â pholisïau Yswiriant Busnes yn gymhleth a chydnabuwyd bod ganddynt y potensial i greu ansicrwydd parhaus i gwsmeriaid a chwmnïau.
Yn sgil hynny, gofynnodd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol am esboniad gan yr Uchel Lys fel rhan o achos prawf, gyda’r gobaith o ddatrys yr ansicrwydd cytundebol o ran dilysrwydd llawer o hawliadau Yswiriant Busnes.
Cyhoeddodd y Goruchaf Lys ei ddyfarniad ar 15 Ionawr 2021 gan ganiatáu’n helaeth apeliadau’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol a gwrthod apeliadau’r yswirwyr. Mae hyn yn golygu y dylai miloedd o ddeiliaid polisi sydd ag yswiriant dderbyn taliadau am eu hawliadau am golledion tarfu ar fusnes cysylltiedig â choronafeirws.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.