
Mae Cymru Greadigol, asiantaeth fewnol Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo a thyfu diwydiannau creadigol y genedl, yn dathlu ei phen-blwydd yn 5 oed ar ôl hanner degawd cyffrous ond heriol i'r sector.
Ers ei sefydlu yn 2020, mae Cymru Greadigol wedi bod yn falch o gefnogi ystod o lwyddiannau rhyngwladol ar draws y sectorau creadigol – o gefnogi cwmnïau gemau cartref sydd wedi cyrraedd brig y siart ffrydio byd-eang, i ffilmiau Hollywood a ffilmiwyd yng Nghymru gan ddefnyddio talent leol.
Rhagwelir y bydd y £28.6m o gyllid cynhyrchu y mae Cymru Greadigol wedi'i fuddsoddi hyd yma yn dod â £342m o wariant ychwanegol i economi Cymru, sy'n golygu am bob £1 sy'n cael ei buddsoddi yn y sector sgrin, mae Cymru Greadigol wedi gweld bron i £12 yn cael ei fuddsoddi yn economi Cymru.
Y sectorau â blaenoriaeth - teledu a ffilm, cerddoriaeth, gemau, animeiddio a chyhoeddi - yw asgwrn cefn y diwydiant ffyniannus hwn a wnaed yng Nghymru, gan gyflogi ar y cyd dros 35,000 o unigolion dawnus.
Mae'r sector yng Nghymru yn parhau i dyfu ei enw da rhyngwladol am ragoriaeth.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Zombies, dreigiau a hwb i'r economi: 5 mlynedd o Gymru Greadigol | LLYW.CYMRU