BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Beth yw llwyddiant?

Waeth pa mor angerddol ydych chi am rywbeth, dydy angerdd ynddo’i hun ddim yn ddigon i sicrhau llwyddiant. Mae angen cyfeiriad clir arnoch chi a fydd yn eich tywys tuag at sut mae llwyddiant yn edrych ac yn teimlo i chi. Mae hynny’n gofyn am waith meddwl gofalus.

Er mwyn dilyn eich angerdd yn llwyddiannus, mae angen i chi benderfynu sut rydych chi am ei ddilyn a beth yw pen draw’r daith. Mae’n golygu diffinio’ch gweledigaeth chi o lwyddiant a’i defnyddio fel glasbrint neu fap ar gyfer cyflawni eich nodau. Dylai hyn fod yn wir am berthnasoedd yn ogystal â’ch gyrfa neu’ch busnes, gan y gall perthnasoedd osod sylfaen gadarn ar gyfer gyrfa neu fusnes.

Mae distyllu’r hyn rydych chi eisiau ei gyflawni yn helpu i ganolbwyntio eich egni a’ch gweithredoedd yn y cyfeiriad cywir. Dyma fan cychwyn y daith tuag at foddhad personol a phroffesiynol – ac mae gwybod beth yw pen draw’r daith yn hanfodol.

Unwaith y byddwch chi wedi penderfynu ar eich gwir angerdd, wedi amlinellu eich gweledigaeth o lwyddiant ac sut byddwch yn cyflawni hynny, mae’n debyg y gwelwch chi fod gan fywyd ffordd ryfeddol o roi’r hyn rydych ei eisiau i chi. Y rheswm am hynny yw y byddwch chi’n gallu sianelu eich holl angerdd a’ch egni tuag at un nod, gyda’r fath benderfyniad ac ymrwymiad, fel y bydd yr arfau gennych chi i dorri eich cwys ei hun – i siapio amgylchiadau, sefyllfaoedd a digwyddiadau i weddu i’ch gofynion chi er mwyn camu’n nes at yr hyn rydych chi eisiau ei gyflawni.

Mae datblygu gweledigaeth bendant o’ch dyheadau am y dyfodol yn gofyn am eglurder meddwl. Felly treuliwch amser yn ystyried pethau a gweld y tu hwnt i’r llanast beunyddiol sy’n cymylu ein meddyliau ni un ac oll. Bydd hyn yn rhoi darlun clir i chi o ble rydych chi eisiau bod. Yna, drwy fyfyrio ar ble rydych chi arni ar hyn o bryd, dylai’r ffordd ymlaen ddod yn glir. 

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.