BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Cyfieithu arwyddion dy fusnes i’r Gymraeg – mae’n hawdd ac mae AM DDIM!

Mae busnesau o bob cwr o Gymru (a thu hwnt!) yn gallu creu arwyddion dwyieithog yn hyderus, diolch i wasanaeth cyfieithu a gwirio testun hwylus a chyfeillgar Helo Blod. 

Montgomery Bookshop

 

Dyma’n union mae Siop Lyfrau Trefaldwyn – The Bookshop Montgomery wedi’i wneud, gan fabwysiadu enw dwyieithog yn y broses! Clicia’r ddolen isod i glywed y perchennog, Barry Lord, yn sôn am sut mae gwasanaeth hawdd-i’w-ddefnyddio Helo Blod wedi’u helpu nhw i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn eu busnes: https://fb.watch/7bQ66UrbcW/ 

Mae Helo Blod yma i helpu busnesau ar-lein yn ogystal â’r rheini ar y stryd fawr, gyda chymorth cyfieithu neu wirio cynnwys ar gyfer: 

  • Gwefannau
  • Negeseuon cyfryngau cymdeithasol
  • Deunydd marchnata
  • Labeli a phecynnau
  • Cylchlythyrau
  • Llofnodion e-bost
  • Negeseuon peiriant ateb

Gyda'n gilydd gallwn wneud y Gymraeg yn fwy amlwg yn ein cymunedau. 

Eisiau gwybod mwy? Cer i llyw.cymru/heloblod
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.