BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Dangoswch eich brwdfrydedd

Mae brwdfrydedd yn hynod heintus a deniadol, ac mae’n rym pwerus y gallwch ei ddefnyddio i ddatblygu perthnasoedd a gwneud cysylltiadau newydd. Mae’n llawer mwy pleserus rhyngweithio ag unigolion sy’n egnïol ac yn frwd dros yr hyn maen nhw’n ei wneud, na threulio amser gyda phobl ddigymell.

Os ydych chi’n cuddio eich teimladau am y pethau rydych chi wrth eich bodd yn eu gwneud, mae risg y gwnewch chi ddatblygu delwedd o apathi. Gall hyn wneud i bobl eraill lunio barn amdanoch chi nad yw’n gwneud cyfiawnder â’ch gallu, eich sgiliau a’ch cymhwysedd. Mae brwdfrydedd yn ymwneud â rhoi bywyd i’ch teimladau. Mae’n arwydd o’ch angerdd a dylai gael ei gyfleu’n hyderus ac yn glir i’r rheini rydych chi’n dymuno dylanwadu arnynt.

Drwy ganiatáu i’ch brwdfrydedd godi i’r wyneb, gallwch gyflawni eich nodau’n gyflymach. Y rheswm dros hyn yw eich bod yn ei gwneud yn glir i bobl eraill faint mae mater, pwnc neu agwedd ar eich galwedigaeth neu’ch bywyd proffesiynol yn ei olygu i chi. Byddwch chi’n gwneud hyn mewn modd mor gyffrous, bydd eich egni yn heintus ac yn ysgogi eraill i fynd ati i’ch cefnogi chi. Yn y modd hwn, gall brwdfrydedd fod yn adnodd cymhellol cryf. Gall fod yn gyfrwng gwych i ychwanegu gwerth a dangos y gwahaniaeth gallwch chi ei wneud.

Fodd bynnag, mae angen i chi ddod o hyd i’r llinell rhwng brwdfrydedd a bod yn rhy eiddgar, er mwyn osgoi mynd ar nerfau eich cynulleidfa. Y peth olaf rydych chi eisiau ei wneud yw dieithrio pobl eraill gyda’ch safbwyntiau. Felly byddwch yn ymwybodol o’r gynulleidfa rydych chi’n ymwneud â hi a bod yn ymwybodol o bersonoliaethau pobl. Os oes angen, addaswch eich ymddygiad brwdfrydig yn unol ag agweddau personol pobl.

Mae’ch brwdfrydedd yn gwneud eich angerdd yn amlwg i bobl eraill. Yn ei dro, mae hyn yn creu carisma – eich cemeg bersonol chi – sy’n effeithiol iawn o ran cyfleu eich neges.

"Cyffro gydag ysbrydoliaeth, cymhelliant ac ychydig o greadigrwydd yw brwdfrydedd." - Bo Bennett

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.