BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Meddwl yn greadigol

I wneud eich marc yn eich cymuned neu’r farchnad ac ennill mantais gystadleuol, bydd angen i chi feddwl yn ofalus ac yn greadigol yn y lle cyntaf am sut y gallwch fod yn wahanol i’r gweddill. Bydd angen i chi greu ffordd o feddwl sy’n sicrhau syniadau gwreiddiol ac arloesol. Mae angen i chi baratoi eich hun yn feddyliol i gael yr ysbrydoliaeth sydd ei hangen arnoch chi. Yn hytrach na’r eiliadau arferol o ysbrydoliaeth a syniadau arloesol, mae angen i chi geisio disgyblu’ch hun a hyfforddi’ch ymennydd i feddwl am syniadau o’r fath yn gyson. Mae hyn yn golygu neilltuo amser yn eich amserlen i greu’r amgylchedd cywir a fydd yn arwain at feddwl yn greadigol.

Yn gyntaf, mae angen i chi encilio o’ch bywyd prysur. Dydych chi ddim yn debygol o gael syniadau ysbrydoledig os ydych chi’n bryderus neu dan bwysau, neu os ydych chi’n meddwl am bethau eraill. Dylech neilltuo rhywfaint o’ch amser i allu canolbwyntio’n llwyr heb neb yn tarfu arnoch chi – tua 10 i 15 munud y dydd yn ddelfrydol. Bydd hyn yn eich helpu i feddwl am atebion arloesol i’r heriau a’r cyfleoedd rydych chi’n eu hwynebu. Trwy neilltuo amser i fyfyrio’n dawel, byddwch yn gallu canolbwyntio’n gliriach ar faterion pwysig, fel sut y gallwch ychwanegu gwerth at eich cynnig er mwyn sicrhau ei fod hyn denu sylw ac yn apelio at eich cynulleidfa.

Bydd cysylltu’n fwy rheolaidd ac effeithiol fel hyn gyda’ch ‘enaid creadigol’ yn cynyddu eich gobaith o lwyddo. Trwy gysylltu â’r parth hwn, byddwch yn datrys problemau’n fwy effeithiol, yn mynd i’r afael â sefyllfaoedd anoddach yn fwy gwrthrychol a meddwl am well opsiynau o ran datblygu. Wrth dawelu’ch meddwl a gwrando ar eich llais mewnol, byddwch yn gallu meddwl yn fwy eglur a fydd yn rhoi ffocws ac arweiniad ysbrydoledig i chi, gan eich tywys gam yn nes at eich gweledigaeth.

“PERSONAL power is the ABILITY to take ACTION so use it.” Anthony  Robbins

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.