Rydym newydd gael un o’r diweddau blwyddyn, neu Nadolig, mwyaf rhyfedd y mae’r rhan fwyaf ohonom wedi’u profi erioed. Wrth i ni ddechrau 2021 rydym yn dal yn wynebu cyfnod digynsail. Datgelodd y pandemig Coronafeirws anghydraddoldebau a gofidion hawliau dynol sydd wedi hen galedu ac mae’n eu gwaethygu; ac mae’n hyd yn oed yn fwy amlwg i’r graddau mae anghydraddoldeb hiliol wedi hen galedu yn ein cymdeithas. Mae angen gweithredu ar frys i adeiladu Cymru fwy cyfartal.
Gyda’r holl reolau a chyfyngiadau presennol, gwahanol a’r gofidion, gall fod yn anodd i bobl lywio trwy gyfreithiau a pholisïau cyflogaeth gymhleth.
Ond nid yw’r cyfyngiadau hyn yn cymryd blaenoriaeth dros gyfraith cyflogaeth a gwneud y peth iawn; nid oherwydd ei fod, mewn gair, y gyfraith, ond mai dyna’r peth iawn i’w wneud. Dyna pam rydym yn croesawu Ymgyrch Hawliau Gweithlu Llywodraeth Cymru, i godi ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau cyflogwyr a hawliau gweithwyr. Trwy gefnogi gweithwyr, gall cyflogwyr helpu i’w cadw’n fwy diogel ac yn iawn o ran iechyd ac yn eu gwaith. Trwy i weithwyr wybod am eu hawliau, gallant helpu eu cyflogwyr i lywio’u ffordd trwy’r cyfnod cythryblus hwn.
Da yw gwybod nad ydych wrth eich hun, mae cefnogaeth a gwybodaeth ar gael ichi. Yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol lluniom ganllaw ar gyfer cyflogwyr yng nghyd-destun Coronafeirws, i’ch helpu i gefnogi’ch staff ac i’ch ategu wrth wneud penderfyniadau.
Gwyddom y bydd gennych efallai benderfyniadau anodd ei gwneud, felly gall ein Canllaw Coronafeirws (COVID-19) i gyflogwyr eich helpu. Mae’n bwysig i chi ystyried ein canllaw wrth wneud penderfyniadau ynghylch dileu swyddi, ffyrlo a dargadw staff, heb wneud rhagdybiaethau am fywydau pobl, megis cyfrifoldebau gofalu.
Fel cyflogwr, rydych yn dal o dan rwymedigaethau cyfreithiol i sicrhau nad yw’r penderfyniadau yr ydych yn eu gwneud wrth ymateb i’r coronafeirws (COVID-19) yn gwahaniaethu’n uniongyrchol neu anuniongyrchol yn erbyn cyflogeion â nodweddion gwarchodedig. Yn ychwanegol i’r canllaw cyffredinol mae gennym ganllaw penodol ar gefnogi cyflogeion anabl ac ar gyfer beichiogrwydd a mamolaeth.
Dechrau anwastad fu i 2021, gobeithio wrth i ni fynd trwy’r flwyddyn y cawn weld adferiad economaidd yn dechrau yng Nghymru, gyda hawliau dynol a chydraddoldeb yn greiddiol iddi.
Os ydych yn gyflogai ac rydych o’r farn eich bod wedi’ch trin yn annheg ac am gyngor pellach, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Ffôn: 0808 800 0082
Ffôn testun: 0808 800 0084
E-bost: gan ddefnyddio’r ffurflen gysylltu o wefan EASS.
Ymweld â: ein tudalen cyngor a chanllaw.
Hefyd ar gael trwy’r wefan mae cyfieithydd BSL, gwasanaeth sgwrs ar y we a ffurflen cysylltu â ni.
Blog gan Parch. Ruth Coombs, Pennaeth Cymru, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.