BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Adrodd am fwlch cyflog rhwng y rhywiau: canllawiau i gyflogwyr

Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw'r gwahaniaeth rhwng enillion cyfartalog (cymedr neu canolrif) dynion a menywod ar draws gweithlu.

O 2017 ymlaen, os ydych chi'n gyflogwr sydd â 250 neu fwy o bobl ar eich 'dyddiad cipolwg' rhaid i chi gydymffurfio â rheoliadau ar adrodd bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Mae cyfrifiadau bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi’u seilio ar ddata cyflogres cyflogwyr a dynnwyd o ddyddiad penodol bob blwyddyn. Enw'r dyddiad penodol hwn yw'r 'dyddiad cipolwg'.

Mae dau ddyddiad terfyn sydd â’u dyddiadau cipolwg eu hunain:

  • rhaid i'r rhan fwyaf o gyflogwyr sy’n awdurdodau cyhoeddus ddefnyddio’r dyddiad cipolwg 31 Mawrth. Rhaid iddynt adrodd a chyhoeddi eu gwybodaeth bwlch cyflog rhwng y rhywiau erbyn 30 Mawrth y flwyddyn ganlynol.
  • rhaid i bob cyflogwr preifat, gwirfoddol ac awdurdod cyhoeddus arall ddefnyddio’r dyddiad cipolwg 5 Ebrill. Rhaid iddynt adrodd a chyhoeddi eu gwybodaeth bwlch cyflog rhwng y rhywiau erbyn 4 Ebrill y flwyddyn ganlynol. Rhaid i'r cyflogwyr hyn hefyd gynnwys datganiad ysgrifenedig.

Rhaid i chi adrodd eich gwybodaeth am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar y Gender pay gap service.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Gender pay gap reporting: guidance for employers - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.