Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau i gyflogwyr ar sut i fesur, adrodd ar a mynd i'r afael ag unrhyw wahaniaethau cyflog ethnigrwydd o fewn eu gweithlu.
Mae adrodd ar gyflogau ethnigrwydd yn un o'r offer y gall cyflogwyr eu defnyddio i adeiladu tryloywder ac ymddiriedaeth ymhlith eu gweithwyr.
Mae'r canllawiau'n cynnwys cyngor ar:
- gasglu data tâl ethnigrwydd ar gyfer gweithwyr
- sut i ystyried materion data fel cyfrinachedd, cydgasglu grwpiau ethnig a lleoliad gweithwyr
- y cyfrifiadau a argymhellir a'r cyfarwyddiadau cam wrth gam ar sut i'w gwneud
- adrodd ar y canfyddiadau
- dadansoddiad pellach y gallai fod ei angen i ddeall achosion sylfaenol unrhyw wahaniaethau
- pwysigrwydd arddel ymagwedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth tuag at gamau gweithredu
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Ethnicity pay reporting: guidance for employers - GOV.UK (www.gov.uk)