BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arferion cyflogaeth: canllawiau drafft monitro yn y gwaith

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn cynhyrchu canllawiau pwnc-benodol ar arferion cyflogaeth a diogelu data. Mae'r ICO yn rhyddhau drafftiau o'r meysydd pwnc gwahanol fesul cam ac yn ychwanegu at yr adnodd dros gyfnod. Mae drafft o'r canllawiau ar fonitro yn y gwaith bellach wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghori arnynt yn gyhoeddus.

Nod y canllawiau drafft yw rhoi canllawiau ymarferol ynghylch monitro gweithwyr yn unol â deddfwriaeth diogelu data a hyrwyddo arfer da.

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y canllawiau drafft a'r asesiad o effaith drafft yn parhau ar agor tan 11 Ionawr 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar yr ymgynghoriad ICO consultation on the draft employment practices: monitoring at work guidance and draft impact assessment | ICO
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.