BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Argyfwng costau byw: helpu busnesau i ymateb

Mae argyfwng costau byw y DU yn effeithio ar bobl ledled y DU.   

Mae chwyddiant cynyddol, yn arbennig ar gyfer nwyddau critigol (fel ynni, bwyd a thanwydd), yn gwthio aelwydydd i dlodi a chaledi ariannol, gan gynnwys y rheiny mewn cyflogaeth. Mae hefyd yn ymestyn i’r pen y sefydliadau cymunedol sy'n helpu'r aelwydydd hyn.

Mae Business in the Community (BITC) wedi lansio Cynllun Gweithredu Costau Byw newydd ar gyfer Busnesau sy'n manylu ar 12 galwad i weithredu i'ch cefnogi i fod yn gyflymach, yn fwy dewr ac yn fwy beiddgar yn eich ymateb i'r argyfwng parhaus.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni canlynol:

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Busnes Cymru, bydd y digwyddiad yn dod â busnesau ac arweinwyr traws-sectorau ynghyd i godi proffil dulliau cyfrifol o greu swyddi hygyrch a chyflog teg, a chyfleoedd i wneud cynnydd. 

Yn ogystal â chreu camau sylweddol i helpu gweithwyr i lywio heriau'r argyfwng costau byw. 

Mae'r digwyddiad am ddim ac fe’i cynhelir ar 15 Chwefror 2022 yng Nghasnewydd. I drefnu lle, cliciwch ar y ddolen ganlynol Overview ⋮ Employability, skills & the cost-of-living crisis in Wales ⋮ Blackthorn ⋮ Events

I gael mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau BITC sydd ar ddod yng Nghymru, cliciwch ar y ddolen ganlynol MyBITC Event Group ⋮ Blackthorn ⋮ Events 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.