BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Banciau bwyd ac elusennau dosbarthu bwyd

Ydych chi’n fusnes gyda gormod o fwyd?

Mae FareShare yn dosbarthu bwyd i elusennau ledled y DU, gan gynnwys clybiau brecwast ysgolion, clybiau cinio pobl hŷn, llochesau i’r digartref a chaffis cymunedol. Mae’n llawer haws cyfeirio bwyd dros ben at elusennau rheng flaen na fyddech chi’n feddwl.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan FareShare.

Rhwydwaith cenedlaethol o fanciau bwyd yw Ymddiriedolaeth Trussell sy’n darparu bwyd a chymorth mewn argyfwng i bobl mewn tlodi. Mae sawl ffordd o gymryd rhan a chodi ymwybyddiaeth o dlodi - o roi bwyd, gwirfoddoli eich amser neu fynd i’r afael â her i godi arian.

Gallwch ddod o hyd i’ch band bwyd lleol Ymddiriedolaeth Trussell drwy ddefnyddio eu map www.trusselltrust.org/find-a-foodbank ac ymweld â’u gwefan i weld beth sy’n digwydd yn eich ardal chi. 

Ewch i dudalennau cyngor i fusnesau ar y Coronafeirws Busnes Cymru i gael gwybodaeth i’ch busnes ar ddelio â’r Coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.