BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cadarnhau llacio cyfyngiadau coronafeirws

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau newidiadau i'r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru o ddydd Llun 3 Mai 2021.

O ddydd Llun 3 Mai:

  • Gall campfeydd, cyfleusterau ffitrwydd, canolfannau hamdden, sbas a phyllau nofio ailagor.
  • Bydd modd ffurfio aelwydydd estynedig, gan ganiatáu i ddwy aelwyd ddod ynghyd i ffurfio swigen benodedig a fydd yn gallu cyfarfod a chael cyswllt dan do.
  • Gall gweithgareddau dan do wedi'u trefnu ar gyfer plant ailddechrau, megis grwpiau a chlybiau chwaraeon, diwylliannol a hamdden ehangach. Ni chaniateir partïon pen-blwydd plant, neu gynulliadau ehangach o deuluoedd a ffrindiau mewn cartrefi preifat o hyd.
  • Gall gweithgareddau dan do wedi'u trefnu ar gyfer oedolion hefyd ailddechrau i hyd at 15 o bobl, gan gynnwys dosbarthiadau ymarfer corff a gwersi nofio.
  • Gall Canolfannau Cymunedol ailagor.

Mae hyn yn golygu y bydd Cymru wedi gorffen symud i Lefel Rhybudd 3 erbyn 3 Mai 2021.

Disgwylir yr adolygiad nesaf o'r cyfyngiadau coronafeirws erbyn 13 Mai 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.