BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau wedi’u diweddaru ar ddod o hyd i weithiwr proffesiynol i ardystio tystysgrifau iechyd allforio

Os ydych chi eisiau allforio anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid o’r DU, rhaid i chi enwebu rhywun i lofnodi tystysgrif iechyd allforio.

Bydd yr unigolyn yn filfeddyg swyddogol neu weithiau’n arolygydd gydag awdurdod lleol (swyddog iechyd yr amgylchedd fel rheol). Bydd yn gwirio bod eich llwyth yn bodloni gofynion iechyd y wlad mae’n mynd iddi.

Am ragor o wybodaeth a’r rhestr ddiweddaraf o filfeddygon ac arolygwyr awdurdodau lleol sy’n gallu ardystio eich llwyth, ewch i wefan GOV.UK.

Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i beth rydych chi ei angen, holwch eich milfeddyg lleol neu anfon e-bost i csconehealthovteam@apha.gov.uk

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.