BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canol trefi ledled Cymru i dderbyn dros £24 miliwn

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth ychwanegol gwerth £24 miliwn i adfywio canol trefi Cymru sy'n cynnwys:

  • £18.4 miliwn o gyllid benthyciad Trawsnewid Trefi yn rhoi bywyd newydd i eiddo hen a gwag.
  • £3.34 miliwn yn helpu busnesau'r stryd fawr i dyfu a chroesawu technoleg ddigidol arloesol a fydd yn helpu eu busnes i ffynnu fel rhan o Flwyddyn Trefi SMART.
  • £3 miliwn ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i gymell mwy o fusnesau yng Ngogledd Cymru i leoli yng nghanol trefi.

Am ragor o wybodaeth ewch i Llyw.Cymru.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.