BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cofrestru’ch sefydliad ar gyfer y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan

Gallwch ddefnyddio’r Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan er mwyn cynnig gostyngiad i annog pobl i fwyta yn eich bwyty.

Gallwch ddefnyddio’r Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan:

  • drwy’r dydd, bob dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher rhwng 3 a 31 Awst 2020
  • i gynnig gostyngiad o 50%, hyd at uchafswm o £10 yr un, oddi ar fwyd neu ddiodydd di-alcohol i bobl eu mwynhau y tu mewn
  • i hawlio’r arian yn ôl gan y llywodraeth

Gallwch gofrestru os:

  • yw’ch sefydliad yn gwerthu bwyd i’w fwyta yn y fan a’r lle ar y safle pan gaiff ei brynu
  • yw’ch sefydliad yn darparu ei ardal fwyta ei hun neu’n rhannu ardal fwyta gyda sefydliad arall ar gyfer prydau y tu mewn
  • cafodd eich sefydliad ei gofrestru fel busnes bwyd gyda’r awdurdod lleol perthnasol ar neu cyn 7 Gorffennaf 2020

Ni allwch gofrestru:

  • sefydliad sy’n cynnig bwyd neu ddiod tecawê yn unig
  • gwasanaethau arlwyo ar gyfer digwyddiadau preifat
  • gwesty sy’n rhoi gwasanaeth i’r ystafell yn unig
  • gwasanaethau sy’n darparu bwyd (megis bwyd ar fordeithiau sy’n rhan o gynnig pecyn)
  • faniau neu drelars bwyd symudol

Mae alcohol a thaliadau gwasanaeth wedi’u heithrio o’r cynnig.

Ni fydd modd cofrestru ar ôl 31 Awst 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.