BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: archwiliadau hawl i weithio

Mae archwiliadau hawl i weithio wedi’u haddasu dros dro yn sgil coronafeirws (COVID-19). Mae hyn er mwyn ei gwneud yn haws i gyflogwyr eu cynnal.

Ers 30 Mawrth 2020, mae’r newidiadau dros dro canlynol wedi’u gwneud:

  • Gellir cynnal archwiliadau nawr ar alwadau fideo
  • Gall ymgeiswyr am swyddi a gweithwyr presennol anfon dogfennau wedi’u sganio neu lun o ddogfennau ar gyfer archwiliadau gan ddefnyddio e-bost neu ap ffôn symudol, yn hytrach nag anfon fersiynau gwreiddiol
  • Dylai cyflogwyr ddefnyddio’r Gwasanaeth Archwilio Gweithwyr os na all darpar weithiwr neu weithiwr presennol ddarparu unrhyw un o’r dogfennau a dderbynnir.

Mae archwiliadau yn parhau i fod yn angenrheidiol ac mae’n rhaid i chi barhau i wirio’r dogfennau a restrir yn y rhestr hon o ganllawiau i gyflogwyr ar archwiliadau hawl i weithio.

Mae’n parhau yn drosedd i gyflogi rhywun y gwyddoch nad oes ganddynt hawl i weithio yn y DU.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

I gael cyngor a gwybodaeth am y Coronafeirws ar gyfer eich busnes, ewch i dudalennau cyngor am y Coronafeirws Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.