BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Canllawiau darparwyr gofal plant i rai dan bum mlwydd oed

Sut gall darparwyr gofal plant ddarparu gofal o dan gynllun cymorth gofal plant y coronafeirws newydd.

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru, sy'n darparu hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i blant 3 a 4 oed o deuluoedd cymwys, ar gau i blant newydd ar hyn o bryd. O wneud hyn, mae modd defnyddio’r cyllid i gefnogi gweithwyr allweddol gyda’u costau gofal plant a chefnogi plant agored i niwed yn ystod pandemig y coronafeirws. Darperir y cyllid hwn drwy Gynllun Cymorth Gofal Plant y Coronafeirws.

Bydd y Cynllun hwn yn parhau tan 31 Awst 2020 a bydd yn ariannu costau gofal plant cyn-ysgol (plant rhwng 0 a 5 oed sydd heb le mewn ysgol) ar gyfer:

  • plant gweithwyr allweddol
  • plant agored i niwed cyn oed ysgol

Sut mae derbyn Cynllun Cymorth Gofal Plant y Coronafeirws

Gall darparwyr gofal plant gael y cyllid i ofalu am blant cyn ysgol. Rhaid eich bod wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Bydd dal modd i chi gael y cyllid newydd hwn hyd yn oed os nad ydych chi wedi cofrestru ar gyfer y Cynnig Gofal Plant.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.