BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Adferiad Ddiwylliannol wedi'i hymestyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi hyd at £30 miliwn i gefnogi sector diwylliant amrywiol Cymru drwy'r pandemig sy’n parhau.

Darparodd y Gronfa Adferiad Diwylliannol, a lansiwyd yr haf diwethaf, £63.3 miliwn yn 2020 i 2021 i gefnogi theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, digwyddiadau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, orielau, sinemâu annibynnol a gweithwyr llawrydd.

Caiff y gronfa ei darparu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac awdurdodau lleol.

I ddarllen y cyhoeddiad yn llawn, ewch i Llyw.Cymru.

Mae’r gronfa bellach ar agor i geisiadau ac mi fydd yn cau ar 20 Ebrill 2021 am 5pm. https://fundchecker.businesswales.gov.wales/culturep2/cy

Bydd amseriad y gronfa ar gyfer gweithwyr llawrydd yn cael ei gyhoeddi ar wahân.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.