BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Arloesi Bwyd Môr y DU

Bydd Cronfa Arloesi Bwyd Môr y DU sy’n werth £10 miliwn yn cefnogi diwydiannau pysgota, dyframaethu a bwyd môr y DU i ddarparu technolegau a phrosiectau arloesol o’r radd flaenaf.

Mae’r gronfa ar agor i bob sefydliad yn y DU neu’r UE sydd â syniad arloesol sy’n cyflawni amcanion y gronfa. Gall sefydliadau’r UE wneud cais fel arweinydd prosiect, neu gallant fod yn rhan o gais fel is-gontractwr. Caiff prosiectau cydweithredol sy’n cynnwys arbenigwyr o’r sector bwyd môr yn ogystal â busnesau technoleg eu hannog.

Bydd y gronfa’n cefnogi prosiectau, syniadau a thechnolegau sydd â’r nod o aflonyddu ar y sector bwyd môr. 

Ystyr arloesi aflonyddol yw pan fydd technoleg neu syniad a roddir ar waith yn cael effaith fawr ar y diwydiant neu’r farchnad. Dylai’r prosiectau ystyried y blaenoriaethau hyn:

  • cynaliadwyedd
  • arloesi
  • cynhyrchiant
  • cydweithio
  • rheoli
  • lleihau risg

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 26 Mehefin 2020.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan y Gronfa.

Ewch i dudalennau Cymru a’r Môr i gael gwybodaeth a chyngor ar gyfer eich busnes morol.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.