BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref Busnes Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio'r Gronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref fel rhaglen beilot i roi cymorth ariannol i entrepreneuriaid a busnesau sy'n awyddus i ddechrau a thyfu busnes yn un o bedwar canol tref ledled gogledd Cymru - Bangor, Bae Colwyn, y Rhyl a Wrecsam. 

Bydd y gronfa hon ar gael fel grant dewisol o rhwng £2,500 - £10,000 fesul busnes i gefnogi gyda'r costau refeniw sydd ynghlwm â dechrau busnes mewn canol tref neu adleoli i ganol tref. 

Er mwyn manteisio ar y gronfa, rhaid i chi gyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb a chofrestru gyda Busnes Cymru. Yna cewch eich neilltuo â Chynghorydd Busnes a fydd yn eich cefnogi a'ch arwain drwy'r broses ymgeisio lawn. 

Mae Cronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref Busnes Cymru yn agored i geisiadau tan 20 Mehefin 2022, os yw'r cronfeydd yn caniatáu.  Os caiff cronfeydd eu defnyddio cyn y dyddiad hwn, bydd y cynllun yn cau. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen Cronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref Busnes Cymru.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.