BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyllid Amgen Cynllun Cymorth Biliau Ynni

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi manylion ynghylch sut y bydd pobl yng Nghymru, Alban a'r Lloegr  sydd heb berthynas uniongyrchol â chyflenwyr ynni domestig, gan gynnwys llawer o breswylwyr cartrefi gofal a’r rheiny sy'n byw mewn cartrefi parc, yn derbyn gostyngiad o £400 i’w biliau tanwydd drwy Gyllid Amgen Cynllun Cymorth Biliau Ynni (EBSS Alternative Funding).

Bydd cartrefi cymwys yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn gallu gwneud ceisiadau ar-lein ym mis Ionawr i gael Cyllid Amgen EBSS gwerth £400 trwy gyflwyno eu manylion, ochr yn ochr â llinell gymorth i'r rheiny sydd heb fynediad ar-lein.

Mae Llywodraeth y DU hefyd yn darparu Taliad Tanwydd Amgen (AFP) pellach o £200 i helpu'r cartrefi hynny ym Mhrydain Fawr sy'n defnyddio tanwyddau amgen fel biomas neu olew gwresogi i dalu costau ynni'r gaeaf hwn.

Bydd y rhan fwyaf o gartrefi sy'n gymwys i gael cymorth AFP ym Mhrydain Fawr, yn derbyn taliad yn awtomatig drwy eu cyflenwr trydan ym mis Chwefror, heb fod angen cymryd unrhyw gamau. Bydd yr aelwydydd hynny y bydd angen iddynt wneud cais am yr AFP, er enghraifft y rheiny sydd heb berthynas â chyflenwyr trydan, yn gallu gwneud hynny ym mis Chwefror, trwy'r un porth GOV.UK â'r un a fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud cais am gymorth o dan gynllun Cyllid Amgen EBSS.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Vital help with energy bills on the way for millions more homes across Great Britain and Northern Ireland - GOV.UK (www.gov.uk)

Mae Busnes Cymru yma i gefnogi busnesau drwy'r argyfwng costau byw i gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cost Gwneud Busnes | Drupal (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.