BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymorth £340m ar gyfer busnesau Cymru wrth i’r rheolau coronafeirws newydd gael eu cyhoeddi

Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi cyhoeddi set o gyfyngiadau newydd wedi’u targedu ar gyfer y sectorau lletygarwch a hamdden yn ogystal â phecyn cymorth gwerth £340m.

Mae’r mesurau newydd yn cael eu cyflwyno wrth i achosion o’r coronafeirws gyflymu yng Nghymru unwaith yn rhagor, gan erydu’r cynnydd a gafodd ei wneud yn ystod y cyfnod atal byr yn ddiweddar.

O ddydd Gwener, bydd tafarndai, bariau, bwytai a chaffis yn gorfod cau erbyn 6pm ac ni fydd hawl ganddynt weini alcohol. Ar ôl 6pm, dim ond gwasanaeth tecawê y byddant yn gallu ei ddarparu.

Bydd rhaid i atyniadau i ymwelwyr a mannau adloniant dan do hefyd gau.

Mae cymorth newydd Llywodraeth Cymru wedi cael ei rannu yn ddwy gronfa:

  • y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau sy’n werth £160m a chynllun grant penodol i sector gwerth
  • £180m o dan y Gronfa Cadernid Economaidd

Bydd rhagor o wybodaeth am y cyllid a sut y gellir cael gafael arno yn cael ei gyhoeddi ar wefan Busnes Cymru yn ystod y dyddiau nesaf.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol Canllawiau lletygarwch y DU ar gyfer Lletygarwch yng Nghymru i gael arweiniad sydd wedi’i gynhyrchu gan Lywodraeth Cymru yn dilyn ymgynghoriad â rhanddeiliaid y diwydiant ac sy’n berthnasol i fusnesau lletygarwch yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y cyhoeddiad, ewch i wefan Llyw.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.