BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymru, Llesiant a’r Byd

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi lansio ei strategaeth gynaliadwyedd gyntaf erioed, sef ‘Cymru, llesiant a’r byd’ sy’n amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer ‘Cymru leol fyd-eang’, gan ddefnyddio grym pêl-droed i wella llesiant y genedl. Gyda thîm cenedlaethol y dynion yn mynd i’w Cwpan y Byd cyntaf ers 64 mlynedd, dywedodd y prif weithredwr, Noel Mooney, y bydd y sefydliad yn rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd ei holl benderfyniadau, gan annog yr ecosystem bêl-droed gyfan – a gweddill y wlad – i ddilyn ei arweiniad. 

Mae’r strategaeth wedi’i datblygu gyda chefnogaeth Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, gan ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel conglfaen. Yn 2015, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ymgorffori dyletswydd i amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol yn y gyfraith. Mae hyn yn golygu bod rhaid i unrhyw benderfyniadau polisi sy’n cael eu gwneud heddiw ystyried pa effaith y byddan nhw’n ei chael ar y cenedlaethau a ddaw.

Mae’r gymdeithas bêl-droed nawr yn mabwysiadu’r ysbryd arloesol yna gyda’r weledigaeth o ddod yn arweinydd cynaliadwyedd ym myd chwaraeon, gan arddangos yr esiampl y gall pêl-droed ei chwarae mewn gwlad fach i ysbrydoli eraill i ddilyn eu camau.   

Mae’r camau’n amrywio ac yn cynnwys popeth o brosesau caffael diwygiedig i sefydlu cynlluniau siopau cyfnewid ar gyfer cit ac offer, creu cronfa i osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn clybiau a nodi pecynnau bwyd lleol, di-blastig, wedi’u seilio ar blanhigion ar gyfer yr eco-system bêl-droed.   

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol FAWCymruLlesiantArByd.pdf (aws-skybrid.co.uk)

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.