BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Cadw Golwg ar Iechyd

Mae cyfraith iechyd a diogelwch yn ei gwneud hi'n ofynnol cadw golwg ar iechyd ar gyfer rhai risgiau iechyd.

Mae cadw golwg ar iechyd yn gynllun o wiriadau iechyd a gynhelir yn rheolaidd i nodi afiechydon a achosir gan waith.

 

Mae cyfraith iechyd a diogelwch yn ei gwneud hi'n ofynnol i chi gadw golwg ar iechyd pan fydd eich gweithwyr yn parhau i wynebu risgiau i iechyd ar ôl i chi roi rheolaethau ar waith.

 

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi diweddaru ei dudalennau gwe ar gadw golwg ar iechyd yn ddiweddar ac maen nhw'n rhoi cyngor ar:

  • Reoli'r risg
  • Ymgynghori â gweithwyr ynghylch cadw golwg ar iechyd
  • Deall pa fath o fesurau cadw golwg ar iechyd sydd eu hangen ar eich busnes
  • Sefydlu cynllun cadw golwg ar iechyd
  • Gweithredu ar ganlyniadau cadw golwg ar iechyd

I gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalennau cadw golwg ar iechyd HSE.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.