BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diogelu data a’r coronafeirws - cyngor i sefydliadau

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn cydnabod yr heriau digynsail mae busnesau a sefydliadau yn eu hwynebu yn ystod y pandemig Coronafeirws (COVID-19) ac yn deall y gall sefydliadau sy’n defnyddio data pobl yn ystod y pandemig fod angen rhannu gwybodaeth yn gyflym. Ni fydd diogelu data yn eich rhwystro rhag gwneud hynny.

Mae chwe cam diogelu data Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer sefydliadau yn nodi’r egwyddorion allweddol sydd angen i sefydliadau eu hystyried i ddefnyddio gwybodaeth bersonol.

Os oes angen cymorth arnoch chi, ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am ragor o wybodaeth.

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth hefyd wedi llunio cyngor penodol i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig coronafeirws.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.