BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dychwelyd i'r gwaith yn ystod y pandemig

Mae dod yn ôl i'r gwaith ar ôl amser i ffwrdd yn ystod y pandemig yn gallu bod yn anodd i rai pobl.

Os yw gweithwyr wedi bod i ffwrdd o'r busnes am gyfnodau hir, efallai y bydd eu gallu neu eu sgiliau wedi dirywio.

Efallai y bydd angen amser a chymorth ychwanegol arnyn nhw i ddechrau perfformio fel roedden nhw cyn y pandemig eto.

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi canllawiau ar ddychwelyd i'r gwaith sy'n gallu eich helpu i siarad â'ch gweithwyr a darparu'r cymorth cywir. 

Mae'n cynnwys:

  • Pwy ddylai fynd i'r gwaith?
  • Dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfyngiadau symud neu ar ôl cau am resymau eraill.
  • Sut gallwch chi helpu'ch gweithwyr os ydyn nhw'n poeni am ddychwelyd i'r gwaith.
  • Cwestiynau i'ch helpu i siarad am weithio gartref neu ddychwelyd i'r gwaith.

Mae rhagor o wybodaeth am gadw'ch gweithle'n ddiogel wrth i gyfyngiadau'r coronafeirws gael eu llacio ar wefan HSE, ac mae canllawiau pellach ar gael yn Llyw.Cymru.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.