BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dydd Gŵyl Dewi 2021

Mae Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth 2021 yn gyfle i ddangos i’r byd y gorau o Gymru a’r hyn sydd ganddi i’w chynnig ac mae Dyma Gymru yn eich gwahodd i ymuno â nhw. 

Fel rhan o’u gŵyl ddigidol dros benwythnos Gŵyl Ddewi, byddant yn arddangos Cymru ar draws y cyfryngau cymdeithasol gyda straeon am y bobl, am y diwylliant, am fusnesau a chymunedau, gan gynnwys y canlynol:

  • dathliad 72 awr yng nghwmni defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol, gan ddathlu popeth Cymraeg a Chymreig (o 26 Chwefror)
  • ffilm arwyr a detholiad o gynnwys mewn ieithoedd gwahanol i’w defnyddio’n fyd-eang
  • cynnwys diwygiedig ar https://www.wales.com/cy
  • rhaglen ddigidol o ddigwyddiadau a fydd yn cael eu hysbysebu ar https://www.wales.com/cy

Mae trosolwg o’r gweithgarwch ar gyfer defnyddwyr a fydd yn cael ei drefnu ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi a manylion ar sut gallwch gofrestru eich diddordeb i ymuno a hyrwyddo’r cynnwys hwn drwy eich sianeli eich hun, ar gael yn y Pecyn Cymryd Rhan ar gyfer Rhanddeiliaid a Phartneriaid.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan https://www.wales.com/cy


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.