Yn dilyn y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu pobl ifanc o dan 25 oed yng Nghymru, gyrraedd eu potensial gyda chymorth i gael lle mewn addysg, hyfforddiant, cymorth i gael gwaith neu i ddod yn hunangyflogedig.
Datblygwyd y Grant Dechrau Busnes i Bobl Ifanc fel rhan o'n hymrwymiad i'r Warant i Bobl Ifanc. Er mwyn sicrhau ein bod yn deall anghenion entrepreneuriaid ifanc, rydym wedi cynnal sgyrsiau gyda phobl ifanc drwy'r Llais Ieuenctid a'n Hasiantau Ieuenctid a ddywedodd wrthym fod cael gafael ar gyllid, gwybodaeth fusnes a hyder yn parhau i fod yn gyfyngiadau allweddol i ddechrau busnes.
Mae Syniadau Mawr Cymru am eich helpu i oresgyn yr heriau hyn a bydd yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu cymorth i bobl ifanc ddod yn hunangyflogedig. Bydd hyn yn eich helpu i ddysgu am fusnes, gweithio gyda chynghorydd i baratoi ar gyfer hunangyflogaeth ac o bosibl gael grant ariannol i'ch helpu i ddechrau.
Bydd y Grant Dechrau Busnes i Bobl Ifanc ar gael hyd at 2025 i alluogi pobl ifanc sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant i ddechrau eu busnes eu hunain, creu menter gymdeithasol, dod yn hunangyflogedig, yn weithiwr llawrydd neu'n entrepreneur cymdeithasol yng Nghymru.
Mae grant o hyd at £2,000 ar gael i helpu pobl ifanc i ddechrau busnes.
Bydd dolen i'r ffurflen Datganiad o Ddiddordeb (EOI) ar gael ar wefan Syniadau Mawr Cymru o 12 Gorffennaf 2022 (Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc | Busnes Cymru (gov.wales).
Os ydych 25 oed a drosodd, cyfeiriwch at y Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes ar gyfer pobl 25 oed a drosodd.