BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwasanaethau Arloesi Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Gall arloesi a phreifatrwydd weithio law yn llaw ac yn wir, fe ddylent wneud hynny. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am weld busnesau arloesol yn ffynnu a thyfu, ac am gefnogi busnesau i ddod â chynhyrchion sy’n parchu preifatrwydd ar y farchnad, tra’n diogelu data personol y cyhoedd.

Os ydych chi’n sefydliad technoleg ariannol bach sydd newydd ddechrau neu’n sefydliad mawr yn y sector cyhoeddus sy’n defnyddio data personol i wella canlyniadau iechyd, os ydych chi’n cynnal prosiectau newydd ac arloesol sy’n defnyddio data personol, gall eu gwasanaethau arloesi eich helpu i gynnwys diogelwch data yn eich cynhyrchion o’r dechrau.

Am ragor o wybodaeth, ewch i ICO Innovation Services | ICO 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.