BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwerth allforion o Gymru yn adfer i lefelau uwch na chyn y pandemig, i gyfanswm o £19.4 biliwn

Mae gwerth y nwyddau mae busnesau Cymru wedi'u hallforio wedi adfer i lefelau uwch na chyn y pandemig–cyfanswm o £19.4 biliwn ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben fis Medi 2022, a chynnydd o fwy na thraean o'i gymharu â'r 12 mis diwethaf, ac £1.7 biliwn yn uwch na'r flwyddyn a ddaeth i ben fis Medi 2019, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi cyhoeddi.

Mae'r ffigurau dros dro diweddaraf yn dangos bod busnesau sy'n allforio nwyddau o Gymru wedi dangos cryn gadernid yn wyneb heriau parhaus yn yr amgylchedd masnachu byd-eang, o'r rhyfel yn Wcráin i ansefydlogrwydd arian cyfred a chostau cludo ac ynni uwch.

Mae ysbrydoli busnesau i allforio, pan mai dyma'r peth cywir iddynt ei wneud, wedi bod yn rhan allweddol o hyn. Mae Ymgyrch Esiamplau Allforio Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at allforwyr llwyddiannus, ac mae cymorth dwys ar gael i fusnesau sydd â'r potensial i fasnachu'n rhyngwladol drwy'r Rhaglen Allforwyr Newydd.

Mae teithiau masnach ac arddangosfeydd mewn marchnadoedd ar draws Gogledd America, Ewrop, y Dwyrain Canol ac Asia hefyd wedi helpu cwmnïau i gwrdd â chwsmeriaid posibl wyneb yn wyneb, a rhoddwyd platfform ar gyfer dathlu a hyrwyddo allforwyr Cymru ledled y byd o ganlyniad i dîm pêl-droed dynion Cymru yn cyrraedd Cwpan y Byd FIFA.

Mae cymorth ar-lein hefyd wedi cael ei wella drwy’r Hyb Allforio, platfform digidol sy'n cael ei gynnal gan Fusnes Cymru sy'n cynnig mynediad at adnodd cynhwysfawr o wybodaeth allforio arbenigol ar gyfer cwmnïau. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Gwerth allforion o Gymru yn adfer i lefelau uwch na chyn y pandemig, i gyfanswm o £19.4 biliwn | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.