BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobr yr Undeb Ewropeaidd i Arloeswyr Benywaidd 2023 i 2024

Mae’r wobr hon yn dathlu’r entrepreneuriaid benywaidd wrth wraidd arloesiadau Ewrop sy’n torri tir newydd.

Ar gyfer rhifyn 2023 i 2024, mae’r Cyngor Arloesi Ewropeaidd a’r Sefydliad Ewropeaidd dros Arloesi a Thechnoleg wedi dod ynghyd i greu Gwobr Ewropeaidd mwy o faint a mwy beiddgar i Arloeswyr Benywaidd, gyda dim llai na 9 gwobr i’w dyfarnu.

Mae’r Wobr Ewropeaidd i Arloeswyr Benywaidd yn dathlu’r menywod wrth wraidd arloesiadau mwyaf blaengar Ewrop. Mae’r wobr yn gwobrwyo menywod o bob cwr o’r UE ac o wledydd sy’n gysylltiedig â Horizon Europe, y mae eu harloesiadau sy’n tarfu yn gyrru newid cadarnhaol i bobl ac i’r blaned.

Mae tri chategori i’r gwobrau:

  • Gwobr Menywod sy’n Arloeswyr 
  • Gwobr Arloeswyr ar Gynnydd 
  • Gwobr Arweinyddiaeth Menywod EIT 

Gall ymgeiswyr cymwys wneud cais ar gyfer un categori yn unig.

Mae’r wobr yn agored i:

  • Fenywod (mae’r wobr hon yn dathlu menywod yn eu holl amrywiaeth)
  • Sydd wedi sefydlu’u hunain yn un o aelod wladwriaethau’r UE neu Wlad Gysylltiedig â Horizon Europe
  • Sydd wedi sefydlu cwmni blaengar a gofrestrwyd o leiaf ddwy flynedd cyn blwyddyn yr alwad 

Rhaid i’r rheiny sy’n gwneud cais am y categori Arloeswyr ar Gynnydd fod o dan 35 oed. Nid oes uchafswm oedran ar gyfer gwneud cais am Wobr yr Arloeswyr Benywaidd nac Arweinyddiaeth Menywod EIT. 

Bydd ceisiadau cymwys yn cael eu gwerthuso yn erbyn 3 maen prawf ar gyfer y gwobrau:

  1. Arloesiad sy’n torri tir newydd 
  2. Effaith 
  3. Ysbrydoliaeth 

Bydd ceisiadau’n cau ar 27 Medi 2023.

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol European Prize for Women Innovators powered by EIC & EIT (europa.eu)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.