BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau’r Frenhines am Fenter 2023

Mae Gwobrau’r Frenhines am Fenter yn dathlu cyflawniad eithriadol gan fusnesau o’r Deyrnas Unedig yn y categorïau canlynol:

  • arloesedd
  • masnach ryngwladol
  • datblygu cynaliadwy
  • hyrwyddo cyfle trwy symudedd cymdeithasol

Os byddwch yn ennill:

  • byddwch yn cael gwahoddiad i dderbyniad Brenhinol
  • byddwch yn derbyn y wobr yn eich cwmni gan un o gynrychiolwyr y Frenhines, Arglwydd Raglaw
  • byddwch yn gallu chwifio baner Gwobrau’r Frenhines yn eich prif swyddfa, a defnyddio’r arwyddlun ar eich deunyddiau marchnata (er enghraifft, ar eich pecynnu, eich hysbysebion, eich papur ysgrifennu a’ch gwefan)
  • byddwch yn cael Grant Penodi (tystysgrif swyddogol) a thlws crisial coffaol 

Mae’r gwobrau’n ddilys am 5 mlynedd.

Mae enillwyr wedi dweud eu bod wedi elwa o gydnabyddiaeth fyd-eang, cynnydd mewn gwerth masnachol, mwy o sylw yn y wasg a hwb i ysbryd staff.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 6 Medi 2022.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i ttps://www.gov.uk/queens-awards-for-enterprise 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.